3 Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni.
4 Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw'u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw.
5 Mae nhw'n gallu ymddangos yn dduwiol, ond maen nhw'n gwrthod y nerth sy'n gwneud pobl yn dduwiol go iawn. Paid cael dim i'w wneud â phobl felly.
6 Nhw ydy'r math o bobl sy'n twyllo teuluoedd ac yn cymryd mantais o wragedd sy'n hawdd dylanwadu arnyn nhw. Mae'r gwragedd hynny wedyn yn cael eu llethu gan euogrwydd am fod eu chwantau nhw'n cael y gorau arnyn nhw.
7 Gwragedd sy'n cael eu ‛dysgu‛ drwy'r adeg, ond yn methu'n lân a chael gafael yn y gwir.
8 Sefyll yn erbyn y gwir mae'r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw – dynion sy'n cogio eu bod nhw'n credu.
9 Ân nhw ddim yn bell iawn. Bydd pawb yn gweld mor ffôl ydyn nhw yn y diwedd, yn union fel ddigwyddodd gyda Jannes a Jambres.