7 Gwragedd sy'n cael eu ‛dysgu‛ drwy'r adeg, ond yn methu'n lân a chael gafael yn y gwir.
8 Sefyll yn erbyn y gwir mae'r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw – dynion sy'n cogio eu bod nhw'n credu.
9 Ân nhw ddim yn bell iawn. Bydd pawb yn gweld mor ffôl ydyn nhw yn y diwedd, yn union fel ddigwyddodd gyda Jannes a Jambres.
10 Ond rwyt ti'n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o'r hyn dw i'n ei ddysgu, o sut dw i'n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i'n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati.
11 Rwyt ti'n gwybod am yr erledigaeth a'r cwbl dw i wedi ei ddioddef – beth ddigwyddodd i mi yn Antiochia, yn Iconium a Lystra. Ond mae'r Arglwydd wedi fy achub i o'r cwbl!
12 Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid.
13 Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi eu twyllo eu hunain yr un pryd.