8 Sefyll yn erbyn y gwir mae'r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw – dynion sy'n cogio eu bod nhw'n credu.
9 Ân nhw ddim yn bell iawn. Bydd pawb yn gweld mor ffôl ydyn nhw yn y diwedd, yn union fel ddigwyddodd gyda Jannes a Jambres.
10 Ond rwyt ti'n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o'r hyn dw i'n ei ddysgu, o sut dw i'n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i'n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati.
11 Rwyt ti'n gwybod am yr erledigaeth a'r cwbl dw i wedi ei ddioddef – beth ddigwyddodd i mi yn Antiochia, yn Iconium a Lystra. Ond mae'r Arglwydd wedi fy achub i o'r cwbl!
12 Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid.
13 Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi eu twyllo eu hunain yr un pryd.
14 Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi ei ddysgu. Rwyt ti'n gwybod yn iawn mai dyna ydy'r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di.