2 Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu'n llygad-dystion i'r cwbl o'r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw.
3 Felly, gan fy mod innau wedi astudio'r pethau yma'n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu'r cwbl yn drefnus i chi, syr.
4 Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.
5 Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o'r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses.
6 Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e'n dweud.
7 Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw'n eithaf hen.
8 Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad.