Luc 9 BNET

Iesu'n anfon allan y deuddeg

1 Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl.

2 Yna anfonodd nhw allan i gyhoeddi bod Duw yn teyrnasu, ac i iacháu pobl.

3 Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi – dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr.

4 Pan gewch groeso yng nghartre rhywun, arhoswch yno nes byddwch chi'n gadael y dre.

5 Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”

6 Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i'r llall gan gyhoeddi'r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman.

Herod yn poeni

7 Clywodd y llywodraethwr Herod am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw.

8 Roedd eraill yn dweud mai'r proffwyd Elias oedd wedi dod, ac eraill eto'n meddwl mai un o broffwydi'r gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw.

9 “Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw i'n clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu.

Iesu'n bwydo'r pum mil

10 Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi ei wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau eu hunain, i dref o'r enw Bethsaida.

11 Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a'i ddilyn yno. Dyma Iesu'n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl.

12 Yn hwyr yn y p'nawn dyma'r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i'r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae'r lle yma yn anial.”

13 Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti'n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”

14 (Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.”

15 Dyma'r disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb.

16 Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl.

17 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben.

Datganiad Pedr

18 Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy mae'r bobl yn ei ddweud ydw i?”

19 Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud fod un o'r proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.”

20 “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”

21 Ond dyma Iesu'n pwyso'n drwm arnyn nhw i beidio dweud wrth neb.

22 Dwedodd wrthyn nhw, “Mae'n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda i'n cael fy lladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.”

23 Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi.

24 Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn.

25 Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli eich hunan?

26 Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn fy holl ysblander, sef ysblander y Tad a'i angylion sanctaidd.

27 Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n teyrnasu.”

Y Gweddnewidiad

28 Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e.

29 Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar.

30 A dyma nhw'n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu.

31 Roedd hi'n olygfa anhygoel, ac roedden nhw'n siarad am y ffordd roedd Iesu'n mynd i adael y byd, hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem.

32 Roedd Pedr a'r lleill wedi bod yn teimlo'n gysglyd iawn, ond dyma nhw'n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a'r ddau ddyn yn sefyll gydag e.

33 Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad go iawn beth roedd yn ei ddweud!)

34 Tra roedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r cwmwl.

35 A dyma lais yn dod o'r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wedi ei ddewis. Gwrandwch arno!”

36 Ar ôl i'r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma'r lleill yn cadw'n dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi ei weld.

Iacháu bachgen oedd ag ysbryd drwg ynddo

37 Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod.

38 Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i'n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i!

39 Mae yna ysbryd yn gafael ynddo'n aml, ac yn sydyn mae'n sgrechian; wedyn mae'r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy'r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae'n ei ddinistrio!

40 Roeddwn i'n crefu ar dy ddisgyblion di i'w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”

41 “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi a'ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.”

42 Wrth i'r bachgen ddod ato dyma'r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu'n ceryddu'r ysbryd drwg, iacháu'r bachgen a'i roi yn ôl i'w dad.

43 Roedd pawb wedi eu syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith.Tra roedd pawb wrthi'n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu'n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion,

Iesu'n siarad am ei farwolaeth eto

44 “Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.”

45 Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw'n methu'n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth.

Pwy fydd y pwysica?

46 Dyma'r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica.

47 Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl.

48 Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i'r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i. Mae'r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.”

49 “Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”

50 “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o'ch plaid chi.”

Pobl Samaria yn ei wrthwynebu

51 Dyma Iesu'n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i'r nefoedd.

52 Anfonodd negeswyr o'i flaen, a dyma nhw'n mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer;

53 ond dyma'r bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem.

54 Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o'r nefoedd i'w dinistrio nhw?”

55 A dyma Iesu'n troi atyn nhw a'u ceryddu nhw am ddweud y fath beth.

56 A dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i bentref arall.

Y gost o ddilyn Iesu

57 Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd!”

58 Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”

59 Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.”Ond dyma'r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”

60 Ond ateb Iesu oedd, “Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.”

61 Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â'm teulu gyntaf.”

62 Atebodd Iesu, “Dydy'r sawl sy'n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu'r Duw sy'n teyrnasu.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24