34 Ond meddai Mair, “Sut mae'r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.”
35 Dyma'r angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw.
36 Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy'n perthyn i ti, yn mynd i gael plentyn er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi'n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog!
37 Rwyt ti'n gweld, does dim byd sy'n amhosib i Dduw ei wneud.”
38 A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi ei ddweud ddod yn wir.” Wedyn dyma'r angel yn ei gadael hi.
39 Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i'r dref yng nghanol bryniau Jwda
40 lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi'n cyfarch Elisabeth,