47 Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!
48 Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn,ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oesyn dweud fy mod wedi fy mendithio,
49 Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi –Mae ei enw mor sanctaidd!
50 Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy'n ymostwng iddo.
51 Mae wedi defnyddio ei rym i wneud pethau rhyfeddol! –Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
52 Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,ac anrhydeddu'r bobl hynny sy'n ‛neb‛.
53 Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i'r newynog,ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!