50 Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy'n ymostwng iddo.
51 Mae wedi defnyddio ei rym i wneud pethau rhyfeddol! –Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
52 Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,ac anrhydeddu'r bobl hynny sy'n ‛neb‛.
53 Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i'r newynog,ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!
54 Mae wedi helpu ei was Israel,a dangos trugaredd at ei bobl.
55 Dyma addawodd ei wneud i'n cyndeidiau ni –dangos trugaredd at Abraham a'i ddisgynyddion am byth.”
56 Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre.