58 Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi.
59 Wythnos ar ôl i'r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai'n cael ei alw, yr un fath â'i dad.
60 Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.”
61 “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda'r enw yna.”
62 Felly dyma nhw'n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw ei fab.
63 Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau “Ioan ydy ei enw.”
64 Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw.