60 Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.”
61 “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda'r enw yna.”
62 Felly dyma nhw'n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw ei fab.
63 Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau “Ioan ydy ei enw.”
64 Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw.
65 Roedd ei gymdogion i gyd wedi eu syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd.
66 Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hi'n amlwg i bawb fod llaw Duw arno.