67 Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn:
68 “Molwch yr Arglwydd – Duw Israel!Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd.
69 Mae wedi anfon un cryf i'n hachub ni –un yn perthyn i deulu ei was,y Brenin Dafydd.
70 Dyma'n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd:
71 Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynionac o afael pawb sy'n ein casáu ni.
72 Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i'n cyndeidiau,ac wedi cofio'r ymrwymiad cysegredig a wnaeth
73 pan aeth ar ei lw i Abraham: