71 Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynionac o afael pawb sy'n ein casáu ni.
72 Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i'n cyndeidiau,ac wedi cofio'r ymrwymiad cysegredig a wnaeth
73 pan aeth ar ei lw i Abraham:
74 i'n hachub ni o afael ein gelynion,i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim,
75 a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawntra byddwn fyw.
76 A thithau, fy mab bach, byddi di'n cael dy alwyn broffwyd i'r Duw Goruchaf;oherwydd byddi'n mynd o flaen yr Arglwyddi baratoi'r ffordd ar ei gyfer.
77 Byddi'n dangos i'w bobl sut mae cael eu hachubtrwy i'w pechodau gael eu maddau.