72 Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i'n cyndeidiau,ac wedi cofio'r ymrwymiad cysegredig a wnaeth
73 pan aeth ar ei lw i Abraham:
74 i'n hachub ni o afael ein gelynion,i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim,
75 a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawntra byddwn fyw.
76 A thithau, fy mab bach, byddi di'n cael dy alwyn broffwyd i'r Duw Goruchaf;oherwydd byddi'n mynd o flaen yr Arglwyddi baratoi'r ffordd ar ei gyfer.
77 Byddi'n dangos i'w bobl sut mae cael eu hachubtrwy i'w pechodau gael eu maddau.
78 Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog,ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o'r nefoedd.