1 Ar ôl hyn dyma Iesu'n penodi saith deg dau o rai eraill a'u hanfon o'i flaen bob yn ddau i'r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw.
2 Meddai wrthyn nhw, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd.
3 Ewch! Dw i'n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid.
4 Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd.
5 “Pan ewch i mewn i gartre rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio'r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall.
6 Os oes rhywun yna sy'n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi.