21 Bryd hynny roedd Iesu'n fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i'r rhai sy'n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy'n dy blesio di.
22 “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.”
23 Pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chi'n cael y fath fraint o weld beth sy'n digwydd!
24 Dw i'n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.”
25 Un tro safodd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
26 Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt ti'n ei deall?”
27 Meddai'r dyn: “‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl nerth ac â'th holl feddwl,’ a, ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’”