32 A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen.
33 Ond yna dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto.
34 Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno.
35 Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio.’
36 “Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o'r tri fu'n gymydog i'r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?”
37 Dyma'r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.”Yna dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna'r un fath.”
38 Wrth i Iesu deithio yn ei flaen i Jerwsalem gyda'i ddisgyblion, daeth i bentref lle roedd gwraig o'r enw Martha yn byw. A dyma hi'n rhoi croeso iddo i'w chartre.