37 Dyma'r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.”Yna dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna'r un fath.”
38 Wrth i Iesu deithio yn ei flaen i Jerwsalem gyda'i ddisgyblion, daeth i bentref lle roedd gwraig o'r enw Martha yn byw. A dyma hi'n rhoi croeso iddo i'w chartre.
39 Roedd gan Martha chwaer o'r enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e'n ei ddweud.
40 Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, dwyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dywed wrthi am ddod i helpu!”
41 “Martha annwyl,” meddai'r Arglwydd wrthi, “rwyt ti'n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd,
42 ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.”