1 Un diwrnod roedd Iesu'n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o'i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.”
2 Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn:‘Dad,dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu.
3 Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw bob dydd.
4 Maddau ein pechodau i ni –achos dŷn ni'n maddau i'r rhai sy'n pechu yn ein herbyn ni.Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi.’”
5 Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a'ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi?
6 Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i'w roi iddo i'w fwyta.’