34 Dy lygad di ydy lamp y corff. Mae llygad iach, sef bod yn hael, yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo. Ond llygad sâl ydy bod yn hunanol, a bydd dy gorff yn dywyll trwyddo.
35 Felly gwylia, rhag ofn bod y golau sydd gen ti yn dywyllwch!
36 Felly os ydy dy gorff yn olau trwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.”
37 Ar ôl i Iesu orffen siarad, dyma un o'r Phariseaid yn ei wahodd i'w gartref am bryd o fwyd. Felly aeth Iesu yno ac eistedd wrth y bwrdd.
38 Roedd y dyn oedd wedi ei wahodd yn synnu gweld Iesu yn eistedd wrth y bwrdd heb fynd trwy'r ddefod Iddewig o olchi ei ddwylo cyn bwyta.
39 Dyma'r Arglwydd Iesu yn dweud wrtho, “Dych chi'r Phariseaid yn glanhau tu allan y cwpan neu'r ddysgl, ond y tu mewn dych chi'n gwbl hunanol a drwg!
40 Y ffyliaid dall! Oes gan Dduw ddim diddordeb yn y tu mewn yn ogystal â'r tu allan?