36 Felly os ydy dy gorff yn olau trwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.”
37 Ar ôl i Iesu orffen siarad, dyma un o'r Phariseaid yn ei wahodd i'w gartref am bryd o fwyd. Felly aeth Iesu yno ac eistedd wrth y bwrdd.
38 Roedd y dyn oedd wedi ei wahodd yn synnu gweld Iesu yn eistedd wrth y bwrdd heb fynd trwy'r ddefod Iddewig o olchi ei ddwylo cyn bwyta.
39 Dyma'r Arglwydd Iesu yn dweud wrtho, “Dych chi'r Phariseaid yn glanhau tu allan y cwpan neu'r ddysgl, ond y tu mewn dych chi'n gwbl hunanol a drwg!
40 Y ffyliaid dall! Oes gan Dduw ddim diddordeb yn y tu mewn yn ogystal â'r tu allan?
41 Rhowch beth sydd tu mewn i'r ddysgl i'r tlodion (yn lle ei gadw i chi'ch hunain) – wedyn byddwch yn lân i gyd.
42 “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed o'ch mintys, arianllys a'ch perlysiau eraill! Ond dych chi'n esgeuluso byw'n gyfiawn a charu Duw. Dylech wneud y pethau pwysicach yma heb ddiystyru'r pethau eraill.