4 Maddau ein pechodau i ni –achos dŷn ni'n maddau i'r rhai sy'n pechu yn ein herbyn ni.Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi.’”
5 Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a'ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi?
6 Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i'w roi iddo i'w fwyta.’
7 “Mae'r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi'r drws ac mae'r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’
8 Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; am ei fod yn dal ati i ofyn bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo.
9 “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor.
10 Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo.