21 “Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.”
22 Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w wisgo.
23 Mae mwy i fywyd na bwyd a dillad.
24 Meddyliwch am gigfrain: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nag ysgubor – ac eto mae Duw'n eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar!
25 Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni!
26 Os allwch chi ddim gwneud peth bach fel yna, beth ydy'r pwynt o boeni am bopeth arall?
27 “Meddyliwch sut mae blodau'n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.