39 “Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd roedd y lleidr yn dod, byddai wedi ei rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ!
40 Rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg, achos bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!”
41 Gofynnodd Pedr, “Ydy'r stori yma i ni yn unig neu i bawb?”
42 Atebodd yr Arglwydd, “Pwy ydy'r rheolwr doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd.
43 Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo.
44 Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd!
45 Ond beth petai'r gwas yn meddwl wrtho'i hun, ‘Mae'r meistr yn hir iawn yn cyrraedd,’ ac yn mynd ati i gam-drin y gweision a'r morynion eraill, ac i bartïo ac yfed a meddwi?