51 Ydych chi'n meddwl mod i wedi dod i roi heddwch i'r byd? Na, wir i chi! Dim heddwch ond rhwygiadau.
52 Bydd teuluoedd yn cael eu rhwygo, tri yn erbyn a dau o blaid, neu fel arall.
53 Bydd tad yn erbyn ei fab a mab yn erbyn ei dad; mam yn erbyn ei merch a merch yn erbyn ei mam; mam-yng-nghyfraith yn erbyn merch-yng-nghyfraith a merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith!”
54 Yna dyma Iesu'n troi at y dyrfa a dweud: “Os gwelwch chi gwmwl yn codi yn y gorllewin, ‘Mae'n mynd i lawio,’ meddech chi ar unwaith, ac mae hi yn glawio.
55 Neu pan fydd gwynt y de yn chwythu, dych chi'n dweud, ‘Mae'n mynd i fod yn boeth,’ a dych chi'n iawn.
56 Am ragrithwyr! Dych chi'n gwybod sut i ddehongli arwyddion y tywydd. Pam allwch chi ddim dehongli beth sy'n digwydd nawr?
57 “Pam allwch chi ddim penderfynu beth sy'n iawn?