56 Am ragrithwyr! Dych chi'n gwybod sut i ddehongli arwyddion y tywydd. Pam allwch chi ddim dehongli beth sy'n digwydd nawr?
57 “Pam allwch chi ddim penderfynu beth sy'n iawn?
58 Os ydy rhywun yn mynd â ti i'r llys, gwna dy orau i gymodi cyn cyrraedd yno. Ydy'n well gen ti gael dy lusgo o flaen y barnwr, a'r barnwr yn gorchymyn i swyddog dy daflu di yn y carchar?
59 Wir i ti, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.”