1 Dyma bobl yn dod a dweud wrth Iesu fod Peilat wedi lladd rhyw bobl o Galilea pan oedden nhw wrthi'n aberthu i Dduw.
2 “Ydych chi'n meddwl fod y Galileaid yna yn bechaduriaid gwaeth na phobl eraill Galilea? Ai dyna pam wnaethon nhw ddioddef?”
3 “Nage! dim o gwbl! Cewch chithau hefyd eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn newid eich ffyrdd a throi at Dduw!”
4 “Neu beth am y bobl yna gafodd eu lladd pan syrthiodd tŵr Siloam ar eu pennau? – un deg wyth ohonyn nhw! Ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n waeth na phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem?”
5 “Nac oedden! Dim o gwbl! Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!”
6 Yna dwedodd y stori yma: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu coeden ffigys yn ei winllan. Bu'n disgwyl a disgwyl i rywbeth dyfu arni, ond chafodd e ddim byd.