17 Roedd ei eiriau yn codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda'r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud.
18 Gofynnodd Iesu, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Sut alla i ei ddisgrifio?
19 Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!”
20 A gofynnodd eto, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw?
21 Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”
22 Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl.
23 Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb: