24 “Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy'r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu.
25 Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’
26 Byddwch chithau'n dweud, ‘Buon ni'n bwyta ac yn yfed gyda ti. Roeddet ti'n dysgu ar ein strydoedd ni.’
27 A bydd e'n ateb eto, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi i gyd!’
28 “Byddwch chi'n wylo'n chwerw ac mewn artaith, wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chi'ch hunain wedi eich taflu allan.
29 Bydd pobl yn dod o bob rhan o'r byd i wledda pan ddaw Duw i deyrnasu.
30 Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”