7 Felly dyma'r dyn yn dweud wrth y gwas oedd yn gweithio fel garddwr iddo, ‘Dw i wedi bod yn disgwyl i ffrwyth dyfu ar y goeden ffigys yma ers tair blynedd, ac wedi cael dim. Torra hi i lawr, mae hi'n wastraff o dir da.’
8 “‘Ond syr,’ meddai'r garddwr, ‘gad hi am flwyddyn arall, i mi balu o'i chwmpas hi a rhoi digon o wrtaith iddi.
9 Wedyn os bydd ffrwyth yn tyfu arni, gwych! Ond os bydd dim ffrwyth eto, yna torrwn hi i lawr.’”
10 Roedd Iesu'n dysgu yn un o'r synagogau ryw Saboth,
11 ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi ei gwneud hi'n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl.
12 Dyma Iesu'n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi “rwyt ti'n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.”
13 Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma ei chefn yn sythu yn y fan a'r lle. A dechreuodd foli Duw.