11 Aeth Iesu yn ei flaen i ddweud stori arall: “Roedd rhyw ddyn a dau fab ganddo.
12 Dyma'r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o'r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma'r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab.
13 “Yn fuan wedyn, dyma'r mab ifancaf yn gwerthu'r cwbl lot, gadael cartref a theithio i wlad bell. Yno gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt.
14 Ar ôl iddo golli'r cwbl bu newyn difrifol drwy'r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu.
15 Llwyddodd i berswadio rhywun i roi gwaith iddo, a chafodd ei anfon allan i'r caeau i ofalu am foch.
16 Aeth pethau mor ddrwg nes ei fod yn cael ei demtio i fwyta peth o'r bwyd moch! Doedd neb yn rhoi dim arall iddo.
17 “Calliodd o'r diwedd, ac meddai ‘Beth dw i'n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd.