22 Meddai'r tad wrth y gweision, ‘Brysiwch! Ewch i nôl mantell iddo ei gwisgo – yr un orau! Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau ar ei draed.
23 Yna ewch i ladd y llo sydd wedi cael ei besgi, i ni gael parti!
24 Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl.’ Felly dyma'r parti'n dechrau.
25 “Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio.
26 Galwodd fachgen ifanc ato, a gofyn iddo beth oedd yn digwydd.
27 ‘Mae dy frawd yma!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi i ddathlu ei fod wedi ei gael yn ôl yn saff.’
28 “Ond dyma'r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma'i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn.