19 “Roedd rhyw ddyn cyfoethog oedd bob amser yn gwisgo'r dillad mwya crand ac yn byw yn foethus.
20 Y tu allan i'w dŷ roedd dyn tlawd o'r enw Lasarus yn cael ei adael i gardota; dyn oedd â briwiau dros ei gorff i gyd.
21 Dyna lle roedd, yn disgwyl am unrhyw sbarion bwyd oedd yn cael eu taflu gan y dyn cyfoethog! Byddai cŵn yn dod ato ac yn llyfu'r briwiau agored ar ei gorff.
22 “Un diwrnod dyma'r cardotyn yn marw, a daeth yr angylion i'w gario i'r nefoedd at Abraham. Ond pan fuodd y dyn cyfoethog farw, a chael ei gladdu,
23 aeth i uffern. Yno roedd yn dioddef yn ofnadwy, ac yn y pellter roedd yn gweld Abraham gyda Lasarus.
24 Gwaeddodd arno, ‘Fy nhad Abraham, plîs helpa fi! Anfon Lasarus yma i roi blaen ei fys mewn dŵr a'i roi ar fy nhafod i'w hoeri. Dw i mewn poen ofnadwy yn y tân yma!’
25 “Ond dyma Abraham yn ei ateb, ‘Fy mab, roedd gen ti bopeth roeddet ti eisiau ar y ddaear, ond doedd gan Lasarus ddim byd. Bellach mae e yma'n cael ei gysuro, a tithau'n cael dy arteithio.