28 Mae gen i bum brawd, a fyddwn i ddim am iddyn nhw ddod i'r lle ofnadwy yma pan fyddan nhw farw.’
29 “Ond atebodd Abraham, ‘Mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi yn eu rhybuddio nhw. Does ond rhaid iddyn nhw wrando ar y rheiny.’
30 “‘Na, fy nhad,’ meddai'r dyn cyfoethog. ‘Petai rhywun sydd wedi marw yn cael ei anfon atyn nhw, bydden nhw'n troi cefn ar eu pechod.’
31 “Ond meddai Abraham, ‘Os dydyn nhw ddim yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn gwrando chwaith os bydd rhywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.’”