3 “‘Beth dw i'n mynd i wneud?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i'n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota.
4 Dw i'n gwybod! Dw i'n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’
5 “A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o'r bobl oedd mewn dyled i'w feistr. Gofynnodd i'r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i'm meistr i?’
6 “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai.“Yna meddai'r fforman, ‘Tafla'r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’
7 “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’“‘Can erw o wenith,’ atebodd.“‘Tafla'r bil i ffwrdd,’ meddai'r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’
8 “Roedd rhaid i'r meistr edmygu'r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae'n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau.
9 Dw i'n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau trwy ddefnyddio'ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.