15 Dyma un ohonyn nhw'n troi'n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi'n uchel, “Clod i Dduw!”
16 Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi ei wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn!)
17 Meddai Iesu, “Roeddwn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall?
18 Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?”
19 Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”
20 Un diwrnod, dyma'r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd!
21 Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma'n teyrnasu yn eich plith chi.”