22 Roedd yn siarad am hyn gyda'i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae'r amser yn dod pan fyddwch chi'n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o'r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu.
23 Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw'n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano.
24 Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall!
25 Ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol.
26 “Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
27 Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Wedyn daeth y llifogydd a'u dinistrio nhw i gyd!
28 “A'r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu.