24 Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall!
25 Ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol.
26 “Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
27 Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Wedyn daeth y llifogydd a'u dinistrio nhw i gyd!
28 “A'r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu.
29 Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o'r awyr a'u dinistrio nhw i gyd.
30 “Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg.