29 Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o'r awyr a'u dinistrio nhw i gyd.
30 “Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg.
31 Y diwrnod hwnnw fydd yna ddim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i bacio ei bethau. A ddylai neb sydd allan yn y maes feddwl mynd adre.
32 Cofiwch beth ddigwyddodd i wraig Lot!
33 Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn.
34 Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael.
35 Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda'i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei gadael.”