3 Felly gwyliwch eich hunain! Os ydy rhywun arall sy'n credu ynof fi yn pechu, rhaid i ti ei geryddu; ond pan mae'n edifar ac yn troi cefn ar ei bechod, rhaid i ti faddau iddo.
4 Hyd yn oed petai'n pechu yn dy erbyn saith gwaith y dydd, ond yn dod yn ôl bob tro ac yn gofyn am faddeuant, rhaid i ti faddau.”
5 Dyma'r apostolion yn gofyn i'r Arglwydd, “Sut allwn ni gael mwy o ffydd?”
6 Atebodd Iesu, “Petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o'r ddaear wrth ei gwreiddiau a'i thaflu i'r môr, a byddai'n gwneud hynny!
7 “Pan mae eich gwas yn dod i'r tŷ ar ôl bod wrthi'n aredig y tir neu'n gofalu am y defaid drwy'r dydd, ydych chi'n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’?
8 Na, dych chi'n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’
9 A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i'w wneud.