33 Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn.
34 Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael.
35 Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda'i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei gadael.”
37 “Arglwydd, ble bydd hyn yn digwydd?” gofynnodd y disgyblion.Atebodd Iesu, “Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw lle mae fwlturiaid wedi casglu.”