14 “Dw i'n dweud wrthoch chi mai'r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a'i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”
15 Roedd pobl yn dod â'u babanod at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw'n dweud y drefn wrthyn nhw.
16 Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.
17 Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”
18 Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
19 “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda?
20 Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’”