16 Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.
17 Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”
18 Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
19 “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda?
20 Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’”
21 Atebodd y dyn, “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.”
22 Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannu'r arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”