22 Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannu'r arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
23 Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben.
24 Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!
25 Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!”
26 Dyma'r rhai glywodd hyn yn dweud, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”
27 Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth sy'n amhosib i bobl ei wneud.”
28 Dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!”