33 Yna bydda i'n cael fy chwipio a'm lladd. Ond yna, ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”
34 Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd e'n siarad.
35 Pan oedd Iesu'n agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd
36 yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma fe'n gofyn, “Beth sy'n digwydd?”
37 “Iesu o Nasareth sy'n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho.
38 Felly dyma'r dyn dall yn gweiddi'n uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
39 “Cau dy geg!” meddai'r bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”