22 “Atebodd y meistr, ‘Dw i'n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti'n was da i ddim!
23 Pam wnest ti ddim rhoi'r arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wedi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
24 “Felly dyma'r brenin yn rhoi gorchymyn i'r rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’
25 “‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’
26 “Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw'n cael ei gymryd oddi arnyn nhw!
27 Dw i'n mynd i ddelio gyda'r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’”
28 Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem.