26 “Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw'n cael ei gymryd oddi arnyn nhw!
27 Dw i'n mynd i ddelio gyda'r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’”
28 Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem.
29 Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o'i ddisgyblion,
30 “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi ei rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi.
31 Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam ydych chi'n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r meistr ei angen.’”
32 Felly i ffwrdd â'r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud.