36 Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn taflu eu cotiau fel carped ar y ffordd.
37 Pan gyrhaeddon nhw'r fan lle mae'r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma'r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi'n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi eu gweld:
38 “Mae'r Brenin sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr! ”“Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!”
39 Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!”
40 Atebodd Iesu, “Petaen nhw'n tewi, byddai'r cerrig yn dechrau gweiddi.”
41 Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crïo wrth weld y ddinas o'i flaen.
42 “Petaet ti hyd yn oed heddiw ond wedi deall beth fyddai'n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae'n rhy hwyr, a dydy heddwch ddim o fewn dy gyrraedd o gwbl.