40 Atebodd Iesu, “Petaen nhw'n tewi, byddai'r cerrig yn dechrau gweiddi.”
41 Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crïo wrth weld y ddinas o'i flaen.
42 “Petaet ti hyd yn oed heddiw ond wedi deall beth fyddai'n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae'n rhy hwyr, a dydy heddwch ddim o fewn dy gyrraedd o gwbl.
43 Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad.
44 Cei di dy sathru dan draed, ti a'r bobl sy'n byw ynot. Bydd waliau'r ddinas yn cael eu chwalu'n llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.”
45 Aeth i mewn i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn gwerthu yno.
46 Meddai wrthyn nhw, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi’; ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”