14 “Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf,heddwch ar y ddaear islaw,a bendith Duw ar bobl.”
15 Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi ei ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.”
16 Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n dod o hyd i Mair a Joseff a'r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.
17 Ar ôl ei weld, dyma'r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma.
18 Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud.
19 Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn.
20 Aeth y bugeiliaid yn ôl i'w gwaith gan ganmol a moli Duw am bopeth roedden nhw wedi ei weld a'i glywed. Roedd y cwbl yn union fel roedd yr angel wedi dweud.