24 a hefyd fod rhaid offrymu aberth i'r Arglwydd – “pâr o durturod neu ddwy golomen”).
25 Roedd dyn o'r enw Simeon yn byw yn Jerwsalem – dyn da a duwiol. Roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd, ac roedd yn disgwyl yn frwd i'r Meseia ddod i helpu Israel.
26 Roedd yr Ysbryd Glân wedi dweud wrtho y byddai'n gweld y Meseia cyn iddo fe farw.
27 A'r diwrnod hwnnw dyma'r Ysbryd yn dweud wrtho i fynd i'r deml. Felly pan ddaeth rhieni Iesu yno gyda'u plentyn i wneud yr hyn roedd y Gyfraith yn ei ofyn,
28 dyma Simeon yn cymryd y plentyn yn ei freichiau a dechrau moli Duw fel hyn:
29 “O Feistr Sofran! Gad i mi, dy was,bellach farw mewn heddwch!Dyma wnest ti ei addo i mi –
30 dw i wedi gweld yr Achubwr gyda fy llygaid fy hun.